OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2015 Rhif 1605 (Cy. 203) (C. 93)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2015
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym, o ran Cymru, adran 89 o Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 2015 (“y Ddeddf”) sy’n diwygio adrannau 11 a 12 o Ddeddf Addysg Uwch 2004([1]) drwy ehangu’r rhestr o ddarparwyr addysg uwch y mae’n ofynnol iddynt ymuno â’r cynllun ymdrin â chwynion addysg uwch.
Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn yn gwneud darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â’r sefydliadau newydd hynny sy’n cael eu dwyn o dan y cynllun cwynion addysg uwch, sef mai dim ond am weithredoedd neu anweithiau sy’n digwydd ar 1 Medi 2015 neu ar ôl hynny, neu pan fo gweithred neu anwaith yn digwydd cyn 1 Medi 2015 ac yn parhau ar ôl y dyddiad hwnnw, y mae modd cwyno mewn perthynas â’r sefydliadau newydd hynny.
NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym drwy orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
Y ddarpariaeth |
Y Dyddiad Cychwyn |
Rhif O.S. |
Adran 77 (yn rhannol) |
27 Mai 2015 |
O.S. 2015/1333 |
Adran 81 (yn rhannol) |
3 Awst 2015 |
O.S. 2015/1584 |
Adran 82 |
27 Mai 2015 |
O.S. 2015/1333 |
Atodlen 5 (yn rhannol) |
27 Mai 2015 |
O.S. 2015/1333 |
Paragraffau 12, 18, 20 i 22, a 28 i 35 o Atodlen 8 (yn rhannol) |
3 Awst 2015 |
O.S. 2015/1584 |
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2015 Rhif 1605 (Cy. 203) (C. 93)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2015
Gwnaed 10 Awst 2015
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 97(2) a 100(3)(b) o Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 2015([2]), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Enwi, cymhwyso a dehongli
1.—(1)(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Hawliau
Defnyddwyr 2015 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru)
2015.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru yn unig.
(3) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Medi 2015
2. Daw adran 89 o’r Ddeddf i rym ar 1 Medi 2015.
Trefniadau trosiannol
3.—(1)(1) Ni all gweithredwr dynodedig ond adolygu cwyn gymhwysol
am weithred neu anwaith sefydliad cymhwysol sy’n dod o fewn
adran 11(e) neu (f) o Ddeddf Addysg Uwch 2004([3]) pan fo’r weithred
neu’r anwaith y cwynir amdani neu amdano—
(a) yn digwydd ar 1 Medi 2015 neu ar ôl hynny; neu
(b) yn digwydd cyn y dyddiad hwnnw ond yn parhau ar y dyddiad hwnnw neu ar ei ôl.
(2) Yn yr erthygl hon, mae i’r termau “gweithredwr dynodedig”, “cwyn gymhwysol” a “sefydliad cymhwysol” yr un ystyr ag a roddir i “designated operator”, “qualifying complaint” a “qualifying institution” yn eu tro yn Rhan 2 o Ddeddf Addysg Uwch 2004.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
10 Awst 2015